Hanes Prifysgol Morgannwg

1913 Agorwyd Ysgol Pyllau De Cymru a Sir Fynwy yn Nhrefforest ar 8 Hydref 1913 gydag 17 o fyfyrwyr diploma cloddio, gan gynnwys 3 o Tseina. Prif berchnogion pyllau glo Cymru oedd perchnogion ac ariannwyr y sefydliad a’r Pennaeth a Chyfarwyddwr Astudiaethau Cloddio cyntaf oedd Yr Athro George Knox, a gefnogwyd gan bump aelod staff.
1914 Agorwyd ysgol bartner ar gyfer myfyrwyr rhan-amser yn Neuadd Crymlyn, yn agos at Gasnewydd, a ddaeth yn Goleg Cloddio a Thechnegol Crymlyn yn ddiweddarach.
1920 Cyflwynwyd yr Ysgol â Pheiriant Weindio Trawstiau 1844 gan Great Western Colliery Company, ac mae’r peiriant heddiw’n sefyll y tu allan i Dy Crawshay ar gampws Trefforest.
1926 Defnyddiwyd yr Ysgol fel model ar gyfer sefydliad Ysgol Pyllau India yn Dhanbad, “prifddinas glo India”.
1927 Canmolwyd gwaith yr Ysgol gan Arolygwyr a nodwyd ei bod yn ymgymryd ag ymchwil o bwysigrwydd cenedlaethol i ddefnydd gwyddoniaeth mewn diwydiant, ac yn hanfodol, o ystyried y nifer o drychinebau cloddio, ymchwiliad i ffrwydriadau oherwydd llwch glo.
1928 Fel canlyniad i Streic Gyffredinol 1926 a’r pwysau ariannol dilynol ar berchnogion glo, trosglwyddwyd yr Ysgol yn Nhrefforest fel gweithred o rodd i Awdurdod Addysg Morgannwg.
1934 Cydnabyddwyd yr Ysgol gan Brifysgol Llundian fel canolfan i baratoi ar gyfer y BSc (Allanol) mewn Cloddio a Pheirianneg Mecanyddol, ac yna Cemeg a Pheirianneg Gemegol. Roedd hefyd yn bosib i fyfyrwyr ymchwil gofrestru ar gyfer Graddau Uwch Prifysgol Llundain.
1940 Ailenwyd yr Ysgol yn Ysgol Pyllau a Thechnoleg, ac yn ystod cyfnod y rhyfel, roedd yn weithredol mewn hyfforddiant “Bechgyn Bevan”, cadetiaid lleol y fyddin.
1943 Sefydlwyd ysgol dechnegol iau yn Rhydfelen a ddaeth o dan awdurdodaeth y Coleg hyd at 1960 pan agorwyd Coleg Addysg Bellach Pontypridd.
1949 Roedd arallgyfeirio diwydiannol sylweddol yn Ne Cymru ar ôl y rhyfel, ac roedd angen i’r Ysgol gyflwyno ystod ehangach o gyrsiau i ateb anghenion hyfforddiant y boblogaeth leol. I adlewyrchu’i phortffolio ehangach, ail-enwyd yr Ysgol yn Goleg Technegol Morgannwg.
1953 Nifer y myfyrwyr oedd 149 llawn-amser, 1,282 rhan-amser a 871 ar gyrsiau noswaith.
1958 Cydnabyddwyd statws rhanbarthol y Coleg gan y Weinidogaeth Addysg ac ail-enwyd y Coleg yn Goleg Technoleg Morgannwg. Erbyn hyn roedd y Coleg wedi ehangu’n bellach i gynnwys cyrsiau llawn-amser, rhyng-gyrsiau a chyrsiau rhan-amser mewn gwyddoniaeth, technoleg a masnach.
1967 Penodwyd y Coleg gan y Llywodraeth yn un o’r 30 Polytechnig newydd i’w sefydlu yn Lloegr a Chymru. Rhoddwyd is-bwyllgor rheoli’r Coleg ei gymeradwyaeth ar gyfer datblygiad y Coleg fel Polytechnig a dechreuwyd rhaglen ddwys o adeiladu a datblygu staff.
1970 Penodwyd y Coleg yn swyddogol fel Polytechnig Morgannwg gyda mwy na 2,000 o fyfyrwyr, deg adran academaidd a rhaglenni gradd wedi’u dilysu gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Dyfarniadau Academaidd (CNAA).
1975 Unwyd Polytechnig Morgannwg â Choleg Addysg Morgannwg yn y Barri ac ail-ddynodwyd yn Bolytechnig Cymru. Roedd hyn yn gyfle i ehangu sail y Polytechnig trwy ddatblygu meysydd nad oeddent yn wyddonol na’n dechnegol.
1976 Agorwyd cyfleuster chwaraeon 30-acer awyr agored y brifysgol yn Nhyn-y-Wern ar Ystad Diwydiannol Trefforest. Mae’r cyfleuster hwn wedi datblygu dros y 30 blynedd diwethaf ac mae’n awr yn darparu’r cyfleusterau cyfoes diweddaraf ar gyfer ein myfyrwyr, grwpiau cymunedol a chyrff chwaraeon cenedlaethol.
1988 Penblwydd y sefydliad yn 75 oed – tair cyfadran academaidd a nifer y myfyrwyr yn 4,200 llawn-amser ac ar rhyng-gyrsiau, a 1,300 yn rhan-amser.
1990 Datblygiad rhwydwaith rhyddfraint o golegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru i alluogi myfyrwyr i astudio cymwysterau addysg uwch yn eu coleg lleol. Yn bresennol mae gan yn Brifysgol dros 3,000 o fyfyrwyr yn astudio y tu hwnt i’r campws ar hyd a lled Cymru a’r DU.
1992 Daeth Polytechnig Cymru’n sefydliad annibynnol ac ar wahân yn Ebrill 1992 a chafodd statws prifysgol fel Prifysgol Morgannwg o’r 1af o Fedi 1992.
1994 Penodwyd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Merlyn Rees o Gilfynydd, gwleidydd disglair a chyn-Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yn Ganghellor cyntaf y Brifysgol. Roedd yn wir eiriolwr o weledigaeth a nodau’r brifysgol yn ei blynyddoedd cynnar.
1994 Sefydlwyd campws Glyn-taf ar gyfer Ysgol y Gyfraith ac yn ddiweddarach, Ysgol Gwasanaethau Gofal.
2002 Dathlwyd dengmlwyddiant y Brifysgol a daeth y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Morris o Aberafan KG QC yn ail Ganghellor y Brifysgol.
2006 Uno gyda Choleg Merthyr Tudful i greu’r Gyfadran Addysg Bellach.
2007 Uno gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a sefydlu campws newydd yng Nghanol Caerdydd – ATRiuM – ar gyfer Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd y Brifysgol.
2008 Agorodd y Brifysgol y Ganolfan Arddangos Hydrogen gyntaf ar Barc Egni Baglan, yn agos at Abertawe.
2009 Sefydliad Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd (UHOVI) mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru Casnewydd i dargedu cymunedau Blaenau’r Cymoedd gyda darpariaeth addysg uwch newydd er mwyn cynyddu lefel sgiliau, cyfleoedd a lles.
2010 Ar hyn o bryd mae gan Brifysgol Morgannwg chwech cyfleuster academaidd a dros 25,000 o fyfyrwyr yn astudio ar gampysau ar hyd a lled De Cymru, mewn colegau partner addysg bellach a chanolfannau ardraws y byd, e.e. Bahrain, Hong Kong a Singapôr. Yr Is-Ganghellor presennol yw Julie Lydon ac mae dros 2,000 o staff academaidd a staff cymorth yn ei chefnogi.